Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysten Sioned.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

caniatau i neb briodi dau frawd;" a ffwrdd â hi cyn gynted byth ag y gallai rhag ofn i Tom ddial arni am ei ffug-gydymdeimlad.

Yr oedd ganddynt blant, ond yr oedd y rhai hyny wedi "gadael y nyth" cyn yr amser hwnw. Adwaenem un mab iddynt, ond nid oes neb byw a all ysgrifenu hanes ei fywyd; a phe gwneid hyny, credem nad oes neb o ddarllenwyr yr Ystên yn alluog i gredu dim o hono, gan mor anesponiadwy o ryfedd a fyddai.

BREUDDWYD GWRAIG Y CALCHWR.

DYWEDER a fyner, y mae rhyw beth rhyfedd, a rhyfedd iawn, weithiau mewn breuddwydion; ac o bob peth a berthyn i'r bywyd presennol, nid oes, ond odid, ddim anhawddach rhoddi rheswm am dano a'i egluro yn foddhaol na gweledigaethau cwsg. Llawer y sydd wedi eu hysgrifenu ar y pwnc; ond hyd yn hyn y mae yn gorwedd mor dawel ag erioed o dan orchudd anhydraidd tywyllwch; ac yno y rhaid ei adael.

"Mae mwy o bethau yn y nef a'r llawr
Nag a ddychymmyg eich athroniaeth chwi."

Nid yw yr hanesan ganlynol, yr hon a adroddir gan yr un yr achubwyd ei fywyd, ond un o blith llawer a ellid eu cofnodi, neu y sydd wedi eu cofnodi eisoes; ac nid yw yn tueddu yn y mesur lleiaf i chwalu dim ar y dyryswch, ond yn hytrach chwanegu ato. Y mae ei dyddordeb yn gynnwysedig yn fwy yn y gwr y breuddwydiwyd o'i achos, nag yn arbenigrwydd y breuddwyd ei hun.

Iolo Morganwg, wedi dyfod o Lanrwst drwy Benmachno