Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysten Sioned.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

60. Ni welodd neb o fewn fy safn
Erioed un datu o gwrw;
A thra bo'r frân yn gwneyd ei nyth
Ni'm gwelir byth yn feddw.

61. Mae llefain mawr a gwaeddi
Yn Ystrad Ffin eleni,
A'r cerryg mân yn toddi'n blwm,
Rhag ofn Twm Sion Cati.

62. Ofer ydyw saethu'r seren,
Ofer golchi traed hwyaden;
Ofer ydyw, cofia'r ddammeg,
Iro tor yr hwch â bloneg:
Ofer ceisio grawnwin deall
Ar fwyeri, drain, ac ysgall;
Ofer disgwyl y felgafod
Yn ddefnynau ar y wermod:
Ofer, ffol yw'r dyn sy'n tybied
Ei fod heb farn yn medru cerdded:
Ni chariodd ci erioed ei gynffon
Wrth fodd pawb, mae'n hyspys ddigon.

63. Mae'm calon i mor drymed
A'r march sy'n dringo'r rhiw;
Wrth geisio bod yn llawen,
Nis medraf yn fy myw:
Mae'm hesgid fach yn gwasgu
Mewn man na wyddoch chwi;
A llawer gofid meddwl
Sy'n torri'm calon i.