Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysten Sioned.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A bara a chaws bryd godro,
A bwyd wrth fyn'd i'r glwyd,
A swper yn ddigonol,
Ni ynganem ni am fwyd.[1]

69. Cân di benniil mwyn i'th nain,
Fe gân dy nain i tithau;
Nid yw hyny ddim i neb,
Ond talu'r echwyn adre'.

70. I'm cinio cael bresygen
Cawn yn fy nwrn erfinen,
Bara barlys coch i'm 'sgâr:—
Tewheais fel iar i'w thalcen.

Lle bai rhyw lewndid lawer,
Cawn fwdran sur i'm swper,
A chydag ef, drwy ffillach ffraeth,
Cawn faidd a llaeth dau hanner.


71. Er gweled y llysiau yn wyrdd ac yn hardd,
Mae'n enbyd bod neidr dan gel yn yr ardd;
A chwithau, wŷr trechol, 'dd wy'n ofni'n rhy dost,
Mai cariad morforwyn yw'ch crefydd a'ch bost.


  1. Y mae'r pennill hwn yn gofyn am eglurnod. Cyffes credo nyddwragedd yr amser gynt ydyw. Codent at eu gwaith ym mhell cyn y dydd; a dalient ato nes y byddai'r nos wedi cerdded yn lled bell. Y "bwyd y bore" oedd y pryd cyntaf, yr hwn a fwytëid wrth oleu canwyll; y "folaid fawr o fwdran" oedd y trydydd pryd, yn rhywle o naw i ddeg, rhwng boreufwyd a chiniaw am ddeuddeg; "pryd godro" ydoedd o ddeutu canol y prydnawn, a'r "bwyd wrth fyn'd i'r glwyd" oedd y pryd a gymmerid pan fo'r ieir yn myned i glwydo neu gysgu ym min yr hwyr, i wella pwyll nes dyfod swper. Gwelir fod y gwragedd da hyn mor ymwadol ag ymfoddloni ar ddim ond saith bryd y dydd. Pan fyddai dim ond un yn canu'r pennill, dywedai:"Pe cawni. Ni ynganwni;" er mwyn iddo fod yn gymhwysach. Gwelir nad oes son am "ddysglaid" neu "gwpanaid o de" yn y pennill.