yr hen frawd fendith ar y trugareddau, a dechreuai siarad yn grefyddol iawn, ei fod yn teimlo ei hun yn ymostwng yn hollol i drefn y Rhagluniaeth fawr oedd yn trefnu pob peth; nad oedd yn disgwyl dim yng wahanol, gan mai felly y rhyngai bodd y Penllywodraethwr. Buom gryn amser (o herwydd yr holl siarad) wrth y boreufwyd, a theimlwn yn wirioneddol ddrwg dros yr hen frawd a'i deulu, yn enwedig dros y plant ag oedd yno. Pan oeddym ar gychwyn allan, "O," meddai yr hen wr, "ein harferiad ni bob amser yw cynnal tipyn o wasanaeth crefyddol bob bore ar ol boreufwyd, sef darllen pennod a myned dipyn i weddi; ac os aroswch chwithau eich dau i gyduno â ni byddai yn dda iawn genyf. Teimlais ar unwaith, gan ein bod wedi cael ein porthi mor gysurus ganddo, mai gwell a gweddusach i ni aros iddo fyned drwy hynny o wasanaeth. Rhaid cyfaddef mai o barch i'r hen gyfaill, ac nid o herwydd bod genym ryw lawer o archwaeth at y gwaith, yr arosasom. Galwyd pawb yng nghyd, ymaflodd yntau yn y Beibl mawr, a darllenodd y bennod fwyaf y clywais son am dani erioed, gan wneyd sylwadau arni wrth fyned ym mlaen; aeth hynny i'r pen rywbryd, ac yna aethom ar ein gliniau; a dyna lle y bu yr hen greadur "yn amgylchynu môr a thir," ac yn son am Iuddewon a Chenhedloedd; daeth cyn y diwedd i erfyn am fendith "ar y ddau gyfaill ag oedd Rhagluniaeth wedi eu dwyn o dan ein cronglwyd;" a dyna y weddi wedi cyrhaedd yr Amen.
Gwnaethom bob brys i fyned allan, a'r hen frawd gyda ni; ond, Ow! nid oedd yr un creadur byw i'w weled yn un man, ond rhyw chwech neu saith o wyddau ar y "grein"—yr oll wedi eu hysgubo ym-