Nid wyf yn gallu dirnad pa ham y galwyd y lle yn Ffos y Cranc, oddi eithr iddo gael ei enwi yn brophwydoliaethol am fy null i yn ceisio symmud oddi yno y boreu bythgofiadwy hwnnw.
RHISIART IORWERTH BRYDYDD.
(TRADDODIAD A GAED MEWN YSGRIFEN).
RHISIART IORWERTH (mab Iorwerth Fynglwyd, fal y tybir), o Langynwyd, y Prydydd, yn myned i fan, ac yntau yn fachgen, lle ydd oedd Cwrdd Prydyddion; gofynwyd iddo pwy oedd ef. "Prydydd," ebe fe. "Prydydd," ebe'r gofynwr; "a fedri di brydyddu?" "Mi fedraf ei gynnyg weithiau," ebe Rhisiart. "A fedri di ddodi ar englyn y pethau a ofynaf ac a ddangosaf iti?" "Mia amcanaf eu dodi y naill ai ar englyn neu englynion," ebe Rhisiart; "dechreuwch ofyn a dangos." Yna dechreuwyd:
"Beth yw hwn?"—"Padell."
"Beth yw yr un oco?"—"Cawell."
"Beth a weli yn gorwedd oco?"—"Сі."
"Beth arall?"—"Costog (Ceneu),"
"Beth yw yr un yna?"—"Cawnen."
"Beth a weli ar y graig oco?"—"Tarth."
"Beth yw'r pren glas oco?"—"Ywen."
"Beth yw'r pren nesaf eti?"—"Gewïen."
"Beth sy'n llaw'r wraig yna?"—"Torth gri."
"Dod y cwbl archa englyn."
"Gwnaf."
"Padell, a Chawell, a Chi,—a Chawnen,
A Cheneu costawcci,
A phren Yw, a phren Ewi,
A Tharth y graig, a Thorth gri."