Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysten Sioned.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AERONWYDD MARGAM.

PAN ymwelodd Tywysog Cymru ag Abertawy yn Hydref 1881, efe a blannodd bren ffrwyth ym Margam, pan yr ydoedd ar ei daith tuag yno. Nid y waith hon yw y waith gyntaf fod a fynno breninoldeb ag aeronwydd Margam. Y mae ar gof a gafael hanesyn i'r perwyl canlynol.

Aeronwydd Margam a gyrchwyd o'r Eidal, gan Syr Harri Wotton, dros y Brenin Siarlas y Cyntaf. Ond pan oedd y llong a'u dygai ar ei mordaith, cyfododd tymmestl-wynt aethus, yr hwn a'i gyrrodd hi i Fôr Hafren, lle y tarawodd ar y traeth yn agos i Fargam. Erbyn hyn yr oedd y Brenin a'r Senedd ben yng nghad â'u gilydd, ac yn y benbleth a'r terfysg anghofiwyd yr aeronwydd y gyrrasid mor bell i'w cyrchu: plannwyd hwynt, gan hynny, rhag eu myned yn ofer, yng ngerddi harddwych Margam. Pan adferwyd teyrnogaeth, a dyfod Siarlas yr Ail i'r orsedd, nid oedd hwnnw, mwy na'i frawd Iago, yr hwn a'i holiannodd, yn gofalu dim am y fath bethau; ac nis gellid disgwyl fod gan Wilym yr Isallman ddim archwaeth at arddoriaeth na phlennyddiaeth; ond pan ddaeth y Frenines Ann i arwedd coron y deyrnas, hi a gyflwynodd yr aeronwydd hyn i'r Arglwydd Mansel, o Fargam; ac, medd un a ysgrifai erys llai na chan mlynedd yn ol, y maent yno yn awr mewn llysieudy hardd dros ben o gerryg nadd addurnedig, a'r mwyaf yn y deyrnas; a'r ffrwythau yn addfedu yn dda iawn arnynt. Hyd y gŵyr yr ysgrifenydd presennol, y maent yn yr un cyflwr llewyrchus hyd y dydd heddyw.