hyn, caed allan nad oedd y gwynt yn deg, a bod morio yn y ffordd yna weithiau yn beryglus; tymmestloedd geirwon a godent, nid o gyfeiriad y môr, ond o'r tir; a bu'r ddau mewn enbydrwydd am eu heinioes (briodasol). Dywedir nad oedd Chubb a'i "gloiau breintebol" i'w cael yn y dyddiau hynny; a phe buasent, y mae cariad yn chwerthin am ben pob dyfeisiau o'r fath, er pawb a phob peth. Er anfoddlonrwydd y fam, a digllonedd y tad, priodi a fynnent, a phriodi a wnaethant; gan na chaffai John Williams ei gariad drwy deg, aeth â hi heb wybod iddynt; ac y mae y gair ar led fod peth o'r elfen yma wedi treiglo i lawr drwy y teulu hyd yn ddiweddar iawn.
Daethant i fyw i Aberystwyth; gorphenwyd y llong newydd; ganwyd iddo fab, a bedyddiwyd ef yn William; a phan oedd y bychan yn dair neu bedair blwydd oed, cymmerodd y Cadben Williams ei wraig a'i fab gydag ef yn y llong, a buant felly am ryw gymmaint o amser yn morio.
Ar fore teg tawel yn yr haf, yn rhyw le yn Cardigan Bay, cyfarfuant â'r Twenty Tons, sef llong eu tad, yn myned adref i Aberystwyth; deisyfodd y tad cu a'r fam gu am gael William bach, sef eu hŵyr, i fyned adref gyda hwy. O'r diwedd gildiodd y tad a'r fam iddynt ei gael; a chyrhaeddodd Sion William a'i wraig a'r ŵyr yr hafn dymunol yn y prydnawn; ond y noson honno cododd yn ystorm o wynt dychrynllyd, a'r môr yn ymgodi fel mynyddau mawrion; a galarus adrodd, aeth llong John Williams i'r gwaelod; collodd ef a'i wraig, a phawb oedd ynddi, eu bywydau, heb neb i fynegu pa fodd y bu. Ym mhen rhai dyddiau ar ol hyn, daeth cyrff y ddau i'r lan yn agos i Fochras, yn Ardudwy, y naill yn cofleidio y