llall, ac nid hawdd oedd eu tynnu oddi wrth eu gilydd, o herwydd eu bod wedi sythu yn yr agwedd honno; a thrueni fuasai eu hysgaru. Claddwyd hwynt felly yn yr un bedd, ac yn yr un arch, yn mynwent Llandanwg. "Cariadus ac anwyl oeddynt yn eu bywyd, ac yn eu marwolaeth ni wahanwyd hwynt."
Adnabyddid eu mab ar ol hynny wrth yr enw William Sion William, gan mai ei dad cu a'i magodd; a bu fyw oes faith, ac am lawer o flynyddoedd yn gadben llong; ac ar ol rhoddi y môr i fyny, bu yn Harbour Master yn Aberystwyth.
Bu Sion William a'i wraig fyw i gyrhaedd oedran mawr, uwch law nawdeg o flynyddoedd, a buant feirw o gwmpas wythdeg a dwy o flynyddau yn ol. Y mae eu hiliogaeth y dydd hwn yn lluosog, ac yn gwneyd i fyny ran helaeth o drigolion Aberystwyth; heb law ereill "sydd ar led y byd." Y maent ar y cyfan yn bobl gywir, onest, a chrefyddol; o natur braidd yn finiog, a'u teimlad, i raddau yn clannish; edrychant yn ammhëus a'r estroniaid a fyddant yn dyfod i gyssylltiad â hwynt; ond wedi iddynt ddyfod, cyfrifir hwynt bron fel rhai o'r teulu. Mae genym barch iddynt oll, a mwy na hyny i un ag y sydd yn orwyres i'r hawddgaraf ferch o'r Beili Einon.
NANSI'R FAGABONIAD.
DYNA enw oedd yn ddigon adnabyddus yng nghanolbarth Sir Aberteifi y rhan flaenaf o'r ganrif bresennol. Hen ferch hanner call, gyfrwysddrwg, a thafodrydd tu hwnt i ddysgrifiad oedd Nansi; ac yn derbyn ei chynnaliaeth gan y plwyf. Gwyddai hanes pawb a phob