peth drwy y cymmydogaethau; ac os byddai rhyw anhap wedi dygwydd i neb, yr oedd y cyfan ganddi hi, a byddai yn ei adrodd gyd a "nodiadau a chwanegiadau" ym mhob man yr elai. Nid oedd neb yn dewis ei gweled yn dyfod yn agos i'w tai; ond o herwydd prinder arian yr amseroedd hynny, byddai ffermwyr y plwyf yn ei chadw yn eu tai am fis ar gylch, drwy gael tâl da gan arolygwr y tlodion am hynny. Ond yr oedd pawb yn hiraethu am weled y mis yn tynnu at ei derfyn i gael gwared o honi.
Adwaenid un o'r plwyfolion dan yr enw Nat Pen Cefn, dyn yn cadw fferm o faintioli cyffredin; a chyda hynny arferai gludo coed o Sir Faesyfed i adeiladu llongau yn y Graig Las ac Aberaeron. Un tro dygwyddodd yn anffodus, pan oedd ef a Thwm Ysgubor Hen, yng nghyd ag un arall o'r gymmydogaeth, yn llwytho coed mewn dyffryn cul ag y sydd yn troi allan o'r ffordd fawr sydd yn arwain o Raiadr Gwy i Lanfair Muallt. Hen greadur tirion, cymmwynasgar, a charedig oedd Nat yn gyffredin; ond pan y byddai rhyw beth yn ei gyffroi, gwylltiai mewn eiliad, a chollai bob llywodraeth arno ei hun, a tharawai y nesaf ato â'r peth a ddygwyddai fod yn ei law; ac felly bu y tro hwn; aeth rhyw gamddealltwriaeth rhyngddo a'i gyfaill Twm o'r Ysgubor Hen, a dygwyddodd fod y fwyell yn ei law ar y pryd; a tharawodd Twm yn ei ben, a lladdodd ef yn y fan. Nid amcanai Nat wneyd y cyfryw beth, a theimlai yn dost o herwydd yr anffawd dorcalonus; ond nid oedd dim i'w wneyd ond gwneuthur y goreu o'r gwaethaf. Ar y cychwil neu'r trengholiad, cafwyd allan fod Twm wedi cael ei ddiwedd drwy i bren mawr syrthio arno wrth lwytho y bedrolfen. Aeth hynny drosodd; ond ni allai y