Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysten Sioned.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y DDWY GOES BREN.

Y MAE yn hen draddodiad yng Ngogledd Cymru er ys oesau, y bydd i bwy bynnag a elo wrtho ei hun at ddrws yr eglwys blwyfol am ddeuddeg o'r gloch y noson olaf o'r flwyddyn, ac aros yno i glustfeinio am ychydig fynydau, y caiff glywed yr holl helyntion pwysig a ddygwyddant yn ystod y flwyddyn ddilynol yn y plwyf.

Mewn treflan yn Sir Ddinbych, er ys amryw flynyddoedd yn ol, mewn tafarndy ger llaw y fynwent, yr oedd amryw gymmydogion wedi crynoi at eu gilydd i gyd-yfed y flwyddyn allan, ac i siarad am helyntion y gymmydogaeth; ac wedi iddynt ymloni nes ei myned yn lled hwyr, coffaodd un o'r gyfeillach yr hen draddodiad, a chymmerwyd y peth i fyny gydag ynni a gwresogrwydd. Annogwyd un, ac ail, a thrydydd i ymgymmeryd â'r anturiaeth, ond gwrthodai y naill ar ol y llall; ond yr oedd yno un yn fwy gwrol, neu, fe allai, yn ffolach na'r lleill, a dywedai yr ymgymmerai ef â'r gorchwyl gyda hyfrydwch; a mawr y llawenydd yn eu plith, a churent ei gefn yn annogaethol iawn, a rhoddwyd iddo amryw o hanner peintiau yn chwanegol i'w gryfhau a'i wroli yn yr anturiaeth bwysig. Ac fel yr oedd yr amser yn nesäu, cychwynodd yng nghanol bloeddiadau y cyfeillion cynnulledig drwy borth y fynwent, ac ym mlaen rhwng y beddau at ddrws yr eglwys, yn y tywyllwch a'r distawrwydd mwyaf. Yna, rhoddes ei glust wrth y drws, gan feddwl y buasai y bod uwchnaturiol yn sibrwd yr holl ddirgelion yn ddistaw bach wrtho drwy y rhigolau oedd yn yr hen ddôr; clustfeinio yr oedd nes tarawodd