Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysten Sioned.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cloc yr eglwys ddeuddeg o'r gloch; ond nid oedd dim argoel am ddim; yna, penderfynodd fod awrlais y byd hwn yn rhyw gymmaint ar y blaen ar amser y byd arall, a chafodd amynedd i ddisgwyl wrth amser hwnnw; ac yn y man, clywai ryw beth yn araf gerdded i lawr oddi wrth y ganghell, gyda rhyw si fel pe buasai gwisgoedd sidanaidd am dano, ac yn cryfhau fel yr ydoedd yn dynesu at y drws; gwrandawai yntau yn astud, ac yn lle sisial ei newyddion yn ei glust yn arafaidd, wele hen ddrws yr eglwys yn agor yn ei hanner, a'r ddau ddarn yn cael eu tynnu yn ol fel cortynau gwely, gydag ysgrêch a thwrf ofnadwy. Methodd â dal yr olygfa ddychrynllyd, ac ymaith ag ef nerth ei draed yn ei unionsyth dros y beddfeini; a chan fod y ffordd oedd yn myned gyda gwal y fynwent gymmaint a deuddeg neu bymtheg troedfedd is law gwyneb y fynwent, aeth (druan o hono!) i lawr bendramwnwgl; daeth ato ei hun mewn amser, a chafodd allan ei fod wedi torri ei ddwy goes yn ysgyrion, a bu raid i'r meddygon dorri y ddwy i ffwrdd uwch law y benlîn; gwelwyd ef am flynyddau lawer ar ol hyn yn symmud yma a athraw drwy gymhorth dwy goes bren.

Y CYDWELY ANGHYNHES.

Er ys amryw flynyddau yn ol, aeth dau ddyn ieuanc, dau saer coed, o Sir Gaerfyrddin (o herwydd bod y gwaith yn brin yn eu hardal enedigol) i lawr i Loegr i chwilio am waith yn rhai o drefydd mawrion y wlad honno. Teithient yr amser hwnnw, wrth gwrs, ar eu traed; a phan oeddynt wedi cyrhaedd rhyw dref yn Swydd Gaerwrangon, gwnaethant eu meddwl i fyny i lettya mewn hen dy tafarn mawr ar eu