mynediad i'r dref. Yr oedd hyn yng nghanol y gauaf, a chawsant fyned i'r gegin o flaen y tân cysurus oedd yno. Ar ol iddynt fwyta eu tamaid, a chael ychydig beintiau o ddiod, a chan ei bod yn lled hwyr, meddyliasant mai gwell oedd iddynt fyned i orphwys, gan eu bod wedi blino yn enbyd. Arweiniwyd hwynt i fyny i'r llofft, ac ym mlaen drwy fynedfa hir, o ba un yr oedd amryw ddrysau yn agor i ystafelloedd i gysgu. Enw y naill oedd Dafydd, a'r llall oedd Thomas. Aeth Dai (fel y galwai ei gyfaill ef) rhag ei flaen i'r gwely; a chyn i Tom fyned, diffoddodd y ganwyll. Erbyn hyn, cofiodd Tom fod ganddo ryw beth heb ei gyflawni cyn dyfod i fyny; ac, ebai fe wrth Dai, "Rhaid i mi fyned i lawr eto." "A wyt ti yn gwybod y ffordd," ebai Dai. "Mi treiaf hi, beth bynnag," ebai Tom; ac i lawr ag ef. Ym mhen tipyn, trodd yn ei ol ac i fyny y grisiau, ac ym mlaen, a throdd i mewn i ystafell, ac wedi ymddihatru, i'r gwely ag ef rhag blaen. "Mae hi yn oer ofnadwy, Dai," ebai Tom; ond nid oedd neb yn ateb; "nesa draw, Dai," ebai fe; "yr wyt ti yn cadw y gwely ym mron i gyd; a wyt ti'n cysgu, Dai? Wyt, mi warantaf," meddai Tom; "yr wyt ti, fel finnau, wedi blino." "Lle tost yw hwn i lettya, Dai," ebai Tom; "nid oes dim byd ganddynt hwy ar y gwely-dim ond un pilyn; pwy synwyr talu am le fel hyn?" Ac ar yr un pryd ymwasgai at Dai i geisio cynhesu. "Yr wyt ti yn oer arswydus, Dai; fachgen, yr wyt ti fel y rhew." A dyna lle y bu Tom bron a sythu am rai oriau, ac yn methu cysgu yn lân. Erbyn hyn, yn nistawrwydd y nos, clywai swn traed amryw yn dyfod i fyny y grisiau,
Tudalen:Ysten Sioned.pdf/47
Gwedd