Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysten Sioned.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac ym mlaen ar hyd y corridor, ac wele ddrws yr ystafell yn agor gan ddyn â chanwyll yn ei law, ac yn ei ganlyn yr oedd dau neu dri o ddynion yn dwyn arch (coffin)! Cododd Tom ar ei eistedd, a phan welodd yr arch, ysgrechodd allan nerth esgyrn ei ben, "Mwrdwr! mwrdwr!! mwrdwr!!! o 'mywyd i! help! mwrdwr!" Ar hyn syrthiodd y ganwyll o law y dyn a'i dygai, a diffoddodd. Dychrynodd pawb, fel y taflasant yr arch i lawr, a ffwrdd â hwynt i lawr y grisiau bendramwnwgl ar draws eu gilydd mewn dychryn, a Tom yn gwaeddi, "Mwrdwr! mwrdwr!!" fel gwallgofddyn, gan dybied yn sicr eu bod wedi rhoi i fyny mewn tŷ drwg, a bod y dynion yn bwriadu eu lladd er mwyn eu harian, ac mai dyna oedd y diben o ddwyn yr arch i'w roddi ef ynddi. Ym mhen amser, daeth yr un dynion i fyny eilwaith, yn ymafael y naill yn llaw y llall, a phob o ganwyll oleuedig ganddynt y tro hwn, gan nesu yn araf ym mlaen, a chyn pen hir iawn, daethant i ddeall eu gilydd.

Fe wel y darllenydd fod Tom, druan, wedi camsynied yr ystafell, ac wedi myned i un lle yr oedd corff marw wedi ei ddodi ar y gwely a chynfas drosto.

Meddyliodd y dynion, o'r ochr arall, fod y marw wedi codi yn fyw, neu ynte fod ei yspryd yn tystio ei fod yn cael cam yn rhywle; ac o herwydd fod y goleu wedi myned allan, dychrynasant tu hwnt i fesur, a gwnaethant y goreu o'u ffordd.

Bu canlyniad y noson honno yn chwerw i Tom, druan; cafodd anwyd trwm, fel y daeth y cryd cymmalau arno, ac a'i gwnaeth yn analluog i ddilyn ei orchwyl am ei oes; a bu orfod arno symmud o'r naill fan i'r llall ar bwys dwy ffon o'r pryd hwn hyd ei fedd.