3. Myn'd at y bel yn fforddrych,
A chanlyn dawns yn fynych,
A thawlu coetan, bar, a gordd,
A neidio'r ffordd y mynych.
4. Pan ffaelio'r helwr ddala,
Bydd beion ar y bwch;
Pan ffaelio'r gwr aredig,
Bydd beion ar y swch;
Ni ellir torri'r castell
Gan feion sy'n y tŵr;.
Pan ffaelio'r diawl ymnofio,
Bydd beion ar y dwr.
5. Da genyf fod yn llawen,
Da genyf fod yn fwyn;
Da genyf, pan fo cawad,
Gael gwysgod dan y llwyn;
Da genyf gyfaill onest
Ar ben y mynydd pell;
Da genyf air o gynghor,
A'i gael ef gan fy ngwell.
6. Mae merch â dwyael feinon
Ym Mro Morganwg dirion;
Swrddanllyd iawn bob awr yw'n pen
Am dani, Gwen lliw'r hinon !
7. Pan fytho'r tifedd candryll
Yn myned ar y gridyll;
Sylwed pawb ar hynny'n syth,
Mae'r crefftwr byth yn sefyll.