Prawfddarllenwyd y dudalen hon
23. Er maint sydd yn dy gwmwl tew
O wlaw a rhew a rhyndod,
Fe ddaw eto haul ar fryn,
Nid ydyw hyn ond cafod.
24. Ffei o ddyn ri ochel unwaith
Fin y ffos lle syrthiodd ganwaith;
Ffei o'r gamp fo'n meflu'r wyneb,
Ffei lawenydd o ffolineb.
Yng Ngwynedd a Phowys fel hyn:
Ffei o ddyn na ddianc unwaith
O safn y ci a'i brathodd ganwaith;
Ffei bob peth sy'n diwyno'r wyneb,
Ffei lawenydd mewn ffolineb.
25. Aeth Huwcyn yn benuchel
I garu ryw nos Lun;
Ond daeth yn ol yn sobrach,
Os nid yn gallach dyn:
Ni chafodd ddrws agored,
Na mynwes un ferch wen;
Mae pawb o'r merched mwynion
Yn chwerthin am ei ben.
26. Mae'r ferch a gâr fy nghalon
Yn byw tu draw i'r afon.
Mi af i gwrdd â'r geingan gu,
Tae'r môr yn rhanu rhynnon.