Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysten Sioned.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LLEN Y MILOD.

DYWED y dysgedigion wrthym fod hanner yr annealltwriaeth, y camgymmeriadau, a'r croes olygiadau sydd yn dygwydd ym mhlith dynion, yn tarddu yn gyffredin o ddiffyg deall eu gilydd, neu o eisieu rhoddi yr un ystyr i'r geiriau a'r ymadroddion a ddefnyddir ganddynt. Rhag dygwyddo dim o'r fath anffawd ar yr achlysur presennol, dyweder ar unwaith mai wrth "Lên y Milod" y golygir llên y werin yng nghylch milod neu anifeiliaid, neu, mewn geiriau ereill, cred, ofergoel, a thraddodiad y cyffredin bobl mewn perthynas i amryw o'r gwahanol greaduriaid a ymlwybrant ar hyd y ddaiar. Y mae'r pwnc wedi ei drin yn bur helaeth a chyflawn mewn cyssylltiad â rhai gwledydd; ond hyd yr ydys yn gwybod, nid oes dim, neu ond y peth nesaf i ddim, wedi ei ysgrifenu yn Gymraeg yng nghylch y rhan y mae milod yn ei chwareu yn chwedloniaeth cenedl y Cymry. Nid ydys yn amcanu ond cyffwrdd tipyn bach yn arwynebol â'r pwnc; dim ond dechreu torri'r garw, fel y dywed y Cymro, neu dorri'r ia, fel y dywed y Sais; dan obaith y canlynir ar hyd yr un llwybr gan ereill, ac y dilynir arno nes cyrhaedd y terfyn. Nis gwyddys fod dim wedi ei ysgrifenu ar y pwnc yn "yr iaith nesaf atom," mwy nag yn y Gymraeg. Rhaid dechreu, chwi a wyddoch, ar bob peth rywbryd, a dywedir mai "cam ar y trothwy yw hanner y daith."

Nid ydys yn awgrymu mewn un modd fod yr ychydig ofergoelion a gofnodir yma wedi dechreu ym mhlith y Cymry, neu eu bod mewn un wedd yn gyfyngedig i'r Dywysogaeth. Y mae llawer o honynt o