Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysten Sioned.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

leiaf cyn hyned ag amser Aristotl; ac adroddir hwynt gyda blas gan Plinius hygoel ac Elian, Solinus, Isidor, ac Alecsander; ond mwynglawdd mawr y pethau anhygoel ym mhlith anifeiliaid yw gwaith Bartholomaeus Glanvil (a gyfenwir hefyd Bartholomaeus Anglicus), a elwir De Proprietatibus Rerum (Am Briodoleddau Pethau), yr hwn a argraffwyd y tro cyntaf yn nines Cwlen mor gynnar ag o ddeutu y flwyddyn 1470, pan yr oedd argraffyddiaeth yn ei mabandod; a bu llawer o argraffiadau diweddarach o hono. Yr oedd yn waith hynod o gymmeradwy yn ei ddydd, gan ei fod mor llawn o'r rhyfeddol a'r aruthrol a'r anhygoel. Cyfieithwyd ef yn fore i'r Seisoneg, y Ffrancaeg, a'r Yspaeneg, ac ond odid i ereill o ieithoedd y Cyfandir. Mynach o urdd y Sant Ffransis ydoedd Glanvil (neu Bartholomaeus, fel y gelwir ef yn fwyaf cyffredin), ac yn byw, fel yr ymddengys, yn amser y Brenin Iorwerth y Trydydd; ac oddi wrtho ef yn benaf y benthyciodd ysgrifenyddion diweddarach lawer o'r pethau dieithr a'r chwedlau rhamantus a adroddant yng nghylch teithi y gwahanol anifeiliaid y cymmerant arnynt eu darlunio.

Ond er nad yw llawer o'r ofergoelion hyn mewn un modd yn gyfyngedig i Gymru, nac yn cael eu credu yn unig o fewn terfynau y Dywysogaeth, yr ydys yn eu hadrodd, fel y cyfryw, o blegid bod yr ysgrifenydd wedi taraw wrthynt oll mewn llawysgrifau Cymraeg, neu ynte wedi eu clywed ar lafar gwerin mewn gwahanol fannau o'r wlad. Nid â gwreiddioldeb y chwedlau y mae a fynwyf. Ychydig o lên y werin sydd wreiddiol. Y mae yr un chwedlau, gydag ychydig gyfnewid, i'w cael yn y rhan fwyaf o barthau y byd.