a'i lid. Pan gysgo'r llew, ei lygaid a fyddant yn egored; a dyn nis lladd ac nis bwyta onid rhag dirfawr newyn. Ac fal y dywed Aristotiles, mae esgyrn y llew cyn galeted ag y daw tân o honynt megys o'r cyllestr, o churir hwynt yng nghyd; ac nid oes onid ychydig o fêr ynddynt. Pan lidio'r llew, curo a wna y ddaiar â'i benllinyn, a phan fwyhao ei lid, y cur ag ef ei gefn. Mewn mynyddoedd, a lleoedd uchel y trig; a phan welo ei braidd, y rhua yn uchel; a'r llef hon a ofnhâ pob anifail, ac a bar iddynt sefyll yn syth i aros gorchymmyn ac ewyllys eu brenin; a'r praidd a ddalio, cywilyddus ganto ei fwyta ei hun; ac am hynny y bydd llawer o anifeiliaid a'r y bo naturiol ganthynt ymborth ar gig, yn canlyn y llew, dan obeithio o'i haelioni ef gael cyfran o'i weddill. Pan ymlenwo y llew unwaith yn dda y bydd heb fwyd ddeuddydd neu dri; ac o gorfydd arno ffo pan fo llawn, ef a gymhell ei fwyd i fyny o'i foly tua'i fochau, ac a'i tyn allan â'i ewinedd, fal y bo ysgafnach i redeg. Y llew sydd anifail hoedlog; a phan gychwnno, ei droed deheu a symmud yn gyntaf, fal y gwna y camel; a phan fo yn cerdded mewn lle garw carregog, ef a dyn ei ewinedd o fewn ei draed, rhag eu briwo neu eu pylu:— canys o'r rhai hynny yr ymarfer ef mewn rhaid, megys gwr o'i gleddyf. I'r llew y mae anadl brwnt, a'i frath y sydd farwol a gwenwynig; yn anwedig pan fo ef mewn cynddaredd." Er cystal hyn ni fynegwyd mo'r cyfan o deithi y llew; a gresyn fyddai colli dim. Y mae yr hyn a ganlyn cystal a dim a draethwyd eto:— "Anian y llew yw, pan aner y cenaw, tair nos a thridiau y bydd farw; sef yn farw y genir; ac yna rhydd y llew ddiaspad yn ei glust, oni ddaw enaid ynddo."