Y Llewpard.—Yn ol ei ach a'i fonedd, y Llewpard yw yr anifail y dylid crybwyll nesaf am dano; canys, yn ol fy awdwr, y mae yn berthynas agos iawn i'r llew; ac fel hyn y rhed ei lên am dano:—"Lleopard y sydd anifail creulawn; ac a geir yn erbyn naturiaeth anifeiliaid y rhwng anifail a elwir Pardus a'r llewes. ac, fel y dywed Isidorus, anifail chwannog i waed yw." Nid oes dim yn rhyfedd yn y gred hon, canys ceir hi yn ysgrifeniadau awduron diweddar mewn cymhariaeth; ac ym mhlith ereill ni a gawn y dysgedig ond arabeddus Ddr. Thomas Ffwler yn ysgrifenu yn y flwyddyn 1650, fel hyn:—"Yn briodol llewpardiaid a mulod nid ynt greaduriaid yn y byd;" a hynny am yr achos tybiedig uchod. A'r un, hyd yr wyf yn deall, yw barn gwerin Cymru, cyn belled ag y mae ganddynt un farn ar y pwnc.
Y Pardus.—Y mae yr ymdrafod â'r llewpard wedi ein dwyn eisoes i gydnabyddiaeth â'r Pardus; ac fel hyn, gyda thipyn o ddiffyg chwaeth, ond gyda gofal am y rhyfeddol, y darlunir teithi y creadur hwnnw:—"Pardus sydd anifail tra buan, â mannau gwynion arnaw megys panthera. Chwannog yw i waed, ac ar un naid y bydd marw. Nid oes amrafael mewn lliw y rhyngto a'r panthera, namyn bod yn wynnach mannau y panthera no'r eiddo ef. Chwannocach yw yr anifail hwn na dim i fwyta tom dynion; ac am hynny y bydd helwyr yn crogi tom dynion ym mrig prenau, megys pan ddringo i'r pren y gallont ei ladd." Yna sonir am ei gyfeillach â'r llewes, megys y gwelsom eisoes; a dywedir wrthym mai oddi wrth ei ddau riant anghydryw y mae yn dwyn ei enw.
Yr Arth.—Cyn gadael y creaduriaid cigysol ysglyfaethus, dyledus yw son am yr Arth; canys y mae