hynodion a theithi yr anifail hwyrdrwm hwn, yn ol ein hawdurdodau, yn llawn mor rhyfeddol a'r eiddo neb o'r neill; er, fel yr ymddengys, mai digon prin y mae yn feddiannol ar "synwyr gwydd." Ond bid hynny fel y byddo, yr "Arth y sydd anifail llidiog anoddefus, ac a fyn ymddiala â phawb a gyhyrddo ag â hi; a phan ddyro ddetgyrch at un, os arall a gyhwrdd â hi, gado a wna y cyntaf, a chyrchu yr ail a'r trydydd a'r pedwerydd. Cryfder yr arth sydd yn ei breichiau; a pheth bynnag a gaffo ynddynt, hi a'i deily yn gadarn ac yn ffest. Pan fo newyn ar yr arth, hi a gais ddwyn y mêl o'r cychau; ac i lestair hynny y crogir gordd fawr drom rhyngti a'r cwch; a hithau â'i phalf a gais yrru yr ordd i wrthi; a pha ffestaf y gyrro, ffestaf y daw yr ordd tuag ati:ac felly yr ymgur fwyfwy â'r ordd hyd pan benfeddwo hi o fynych ddyrnodiau ar yr ordd â'i phen, a syrthio i'r llawr ar bethau llymion gosodedig yno o'r dioddef, a'i lladd ei hun o'i hynfydrwydd." A rhag i neb fod mor anystyriol ag ammheu dim o'r pethau hyn, chwanegir:"Ac â hyn y cytunant Aristotiles, Plinius, a Bartholomeus." Y mae'r pwnc gan hyny wedi ei benderfynu, ac aed Cuvier, Owen, a'r cyfryw, i "chwiban ysgadan," os mynnant hwy.
Y mae yr arth, cystal a'r llew, wedi cael troedle ym mysg ein hymadroddion diarebol:canys ym mhlith ereill sonir, nid yn anfynych, am "gospi (neu geryddu) yr arth yng ngwydd y llew;" sef yw hynny, "taraw'r post i'r pared gael clywed;" neu, mewn geiriau ereill, cospi, cystwyo, neu ddwrdio un, fel y gallo'r llall glywed a chymmeryd yr awgrym; gwneuthur enghraifft o'r naill er rhybudd i'r llall.
Rhaid bellach adael y creaduriaid cigysol ysglyf-