Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysten Sioned.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aethus, a throi at un neu ddau o anifeiliaid o rywogaethau ereill, ac o deithi pur wahanol. Y nesaf a ddaw dan ein sylw yw

Y Carw.— "Aristotiles, yn yr wythfed llyfr a wnaeth o naturiaethau anifeiliaid, a ddywed, pan yw cymhenaf anifail yw'r carw ym mysg yr holl anifeiliaid gwylltion; ac nid oes dim o'r bustl ynddo. Yr anifail hwn, o'i ddoethineb a'i fwriad, a bair i'r ewig fwrw y gelain neu y llo mewn lle cadarn disatur, lle ni bo tramwy dynion nac anifeiliaid; ac wedy hynny ef a'u dwg wynt i le ni bo onid un ffordd i ddyfod i mewn, fal y gallont yno ymgadw rhag rhuthr pob anifail a geisio ddyfod atynt. A hefyd osglau ei gyrn ef a feneig ei ei oedran; canys pob blwyddyn y tyf osgl iddaw, hyd pan fo ym mhell mewn oedran. A phob gwanwyn y syrth ei gyrn ef, ac yna y bydd ef gwedy'r ddiarfu; ac o'i ddoethineb yna ni chwennych ymladd, eithr ymguddio mewn lleoedd anial hyd pan dyfo ei gyrn, a dyfod arfau newydd iddo."

Y mae hynna yn weddol; ond y mae un peth o fawr bwys wedi ei adael allan, yr hwn y mae yn rhaid ei gyflenwi o ffynnonell arall. "Llyma y tri achos a bair i'r huaid ganlyn yn well y carw nag anifail arall o'r byd:—nid amgen, o herwydd ei fod ef yn chwysu yn fawr pan fydder yn ei ymlid ef, oni bo y chwys yn rhedeg ar hyd ei draed a'i gymmalau i'r llawr; a phan gaffo y bytheuaid hwnnw, hwynt a fyddant can llawened ag na allant ymadael, ac o wir felusder gaffael y chwys hwnnw. Yr ail achos yw, pan fo y carw wedi bliuo, fel na allo fawr gerdded, bwrw ewyn gwyn a wna efe; a phan gaffo y bythenaid hwnow, [hwy] a fyddant lawerach, ac a'i canlynant heb aros. Y trydydd, pan fo y carw yn rhoddi y maes i fyny,