Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysten Sioned.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi bod yn ymyrryd â'r gred hon hefyd, ac wedi ei halltudio i "garchar Oeth ac Anoeth," fel y rhan fwyaf o'r hen gredoau cysurus ereill.

Ymddengys y wennol yn y Dywysogaeth tua chanol mis Ebrill; ac os dygwydd i ambell un ymddangos dipyn yn gynt, cofier,

"Un wennol ni wna wanwyn."

Pan ddychwel atom o'r hinsoddau clauarach, y mae yn gweled cryn gyfnewidiad wedi dygwydd, a chwyna o'r herwydd fel hyn:

"Gwyl Fair ddiwedda', Pan eis oddi yma, Mi adewais lawer o yd; Gwŷr â ffustau, Gwragedd a gwagrau, Aethant ag e ymaith i gyd, i gyd!"

Gwyl Fair ddiweddaf y sonir am dani yma yw cofwyl Genedigaeth Mair Forwyn, ar yr 8fed o fis Medi;[1] ac o ddeutu yr amser hwnnw, neu ychydig yn gynt, y mae y wennol yn cefnu arnom, ac yn ymfudo tua pharthau cynhesach y deheu, nes byddo'r gauaf oer ei naws wedi peidio â thraws-reoli. Yna y dychwel atom drachefn, a llon fydd pawb o'i gweled.

  1. Y mae chwech Gwyl Fair yn dygwydd yng nghorff y flwyddyn. Y gyntaf yw Ymddwyn Mair Forwyn, Rhagfyr 8fed; yr ail, Gwyl Fair y Canwyllau, neu Buredigaeth Mair, Chwefror 2fed; y drydedd, Gwyl Fair y Cyhydedd, neu Gyfarchiad Mair, Mawrth 25fed; y bedwaredd, Ymweliad neu Ofwy Mair, Gorphenaf 2fed; y bummed, Dyrchafiad Mair, Awst 15fed; a'r chweched, Genedigaeth Mair, Medi 8fed. Nid yw y bummed wyl yn y Llyfr Gweddi Gyffredin; ond ceir hi, mewn llythyren goch, yn y Calaniadur Pabaidd. Sylwer fod y flwyddyn eglwysig yn dechreu gyda'r Dawodiad neu Adfent, ac nid gyda'r Calan. Geilw rhai o'r hen amseronïau Cymraeg Wyl Dyrchafiaid Mair ym mis Awst yn Wyl Fair gyntaf, yr hyn sydd amryfus, canys y bummed, a'r olaf ond un, ydyw.