Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysten Sioned.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

waith ar ei chân, gan dybied mai gwres yr haf ydoedd cynhesrwydd y boncyff y llechai ynddo. Y mae hyd yn oed yr adar, sy'n gwybod cymmaint, yn camsynied weithiau.

Y mae amryw bethau pwysig yn dwyn cyssylltiad â dyfodiad a chaniad y gog. Y mae amser nodedig iddi ddechreu ar ei chân; a blwyddyn aflwyddiannus iawn a fydd y flwyddyn, os clyw y gwcw ar ei chalon ganu yn rhy gynnar; canys,

"Os cân y gog ar ddraenllwyn llwm,
Gwerth dy geffyl, a phryn dy bwn."

Ni ddylai hi gan hynny agoryd ei min nes y bo dail a glesni yn cuddio'r coedydd.

"Mis cyn Calanmai
Y cân y cogau;
Mis cyn hynny
Tyf briallu."

Ymddengys felly mai rhyw fis cyn Calanmai (yn ol yr Hen Gyfrif) y dylai cogau iawngred ddechreu ar eu cân; ac ni ddylent ei gadael i fyned yn llawer diweddarach; o herwydd,

"Cwcw Galanmai,
Cosyn dimai;"

sef yw hynny, tebygol, bychan fydd y caws a'r ymenyn y flwyddyn honno, gan nas gellir gwneuthur fawr o honynt.

"Amser y gwcw yw Ebrill a Mai,
A hanner Mehefin, chwi wyddoch bob rhai."

Ond y mae yr amser iddi dewi â'i chân yn fwy pennodol o gryn lawer na'r adeg y mae iddi ddechreu; canys, medd yr hen bobl,