"Wythnos gyfan
Cyn Gwyl Iwan,[1]
Y cwyd y gwew
Ei chân i gadw."
Y mae o bwys nid bychan pa le y bydder yn sefyll arno pan glywer gyntaf gân y gog. Os ar dir glas porfaog y bydder, yna caiff y dyn hwnnw gyflawnder o flith, a phob peth y mae a fynno blith ag ef, trwy gorff y flwyddyn honno:—eithr os ar y ffordd fawr, neu ryw sychdir coch, y dygwydd ei fod yn sefyll, prinder a llymder o ddanteithion y maes a'r fuches a fydd ei gyfran. Ac od oes modd, pwysicach fyth fod gan ddyn arian yn ei logell ar y cyfryw adeg; canys fel y byddo pan y clywo'r gog, dyna fel y bydd, o barth arian, trwy gydol yr holl flwyddyn. Y mae llawer, er mwyn rhagflaenu y fath anffawd ddybryd, yn gofalu am gadw rhyw gymmaint o arian yn wastadol yn eu llogellau yn ystod yr amser y disgwylir y gwcw i wneuthur eu hymddangosiad yn y parthau hynny, a dechreu ar ei chyfacen gân. Peth annymunol yw.clywed y gog y waith gyntaf pan fyddo dyn yn gorwedd ar ei wely; canys, yn ol yr egwyddor flaenorol, mae yn debyg ddigon mai ar ei wely y bydd ef y rhan fwyaf o'r flwyddyn; a gall y claf wely droi yn wely angeu iddo ef, neu i ryw aelod o'i deulu, neu i rywun o'i berthynasau.
Yr Alarch.—Gan mai anfynych y daw yr alarch i dir, dywedir mai cywilydd sydd arno weled ei draed,
- ↑ Felly, ar lafar Dyfed, y seinir enw y Bedyddiwr yn ei gyssylltiad â gwyliau, ffeiriau, ac ag enwau eglwysi. "Gwyl Iwan," neu "Wyl Iwan yr Haf," yw dydd Gwyl Sant Ioan Fedyddiwr, y 24ydd o Fehefin. Nid yw Iwan, Ifan, Iefan, Ieuan, Ioan, Ion, Sion, ond gwahanol ddulliau o'r enw Ioannes neu Iohannes (o'r Hebraeg Iohanan neu Iehohanan).