y rhai sy dduon. Nid wyf yn deall fod llawer o chwedlau ar lafar y werin yn ei gylch; a hynny, mae yn debygol, o herwydd mai ychydig o'r adar prydferth hyn a welir yng Nghymru; ond dylid cofio fod eleirch yn llawer amlach yn y wlad gynt nag y maent yn bresennol, fel y mae yn amlwg wrth y mynych gyfeiriadau atynt yng ngwaith y prydyddion. Nid oes gan ein hawdurdod lawysgrifol lawer i'w ddywedyd am yr alarch. "Dwyn alarch mewn arfau, fal y dywed gwŷr dysgedig, yw arwydd bod y cymmerwr cyntaf yn gantor da; canys yn Lladin tebyg yw y ddau henw, ac o hono y daw. Eisioes mae llawer yn dwyn alarchod a'r nid ynt gantorion; a phan ofynwyd pa ham y rhoes yr herod neu'r arwyddfardd iddynt y cyfryw arwydd, ef a ddywad mai achos eu bod yn wŷr gwynion teg â gyddfau hirion iddynt." Nid ymddengys fod ein cydwladwyr yn gydnabyddus iawn â chân flasber yr alarch wrth farw; at yr hyn y cyfeirir braidd yn amwys yn y dyfyniad rhagflaenorol. Dywed Huw Roberts Lên (neu Rolant Fychan, yn ol ereill) yn ei gân gyfieithedig ar "Gyffelybiaeth Dyn," fod yr einioes ddynol, ym mhlith pethau diflannol ereill, yn
"Ail i dôn yr alarch gwyn,
Pan gano cyn ei ddiwedd."
Y Bioden. —Aderyn cas yw y bioden fraith, ac ysgrêch gas yw ei hysgrêch hi. Os dygwydd i bioden groesi eich llwybr, cyn wired a bod bara mewn torth, nid yw aflwydd a dryglam neppell oddi wrthych.
"Clyw grechwen nerth pen, iaith pi,—yn addaw
Newyddion drwg ini;
Daroganwr drygioni
O'i fin oer yw ef i ni."
Dywedir fod un ffaith yn werth certaid o resymau.