Purion; dyma un ffaith o leiaf. Un pen bore troais allan o'm tŷ mewn cerbydan dwy-olwynog; a chyda fy mod ryw hanner milltir o ffordd, dyna bioden yn croesi'r ffordd fawr o'm blaen, bron wrth drwyn y ceffyl, ac yn ysgermain yn adgas. Dywedais wrth yr hon a eisteddai wrth fy ystlys fod anffawd yn sicr o'n goddiweddyd cyn y dychwelem, gan fod pioden wedi ein croesi; a braidd nad awgrymais yng nghylch y doethineb o droi yn ol, wedi cael y fath rybudd diamwys o'n perygl. Ond ym mlaen yr aethom, a chyn pen deng mynyd, a ni yn myned trwy un o'r afonydd mwyaf yng Ngogledd Cymru, torrodd yr echel yn ddau ddarn pan oeddym yng nghanol y llif, ac ymaith ag un o'r olwynion! Ond yn rhyw fodd, megys o fic i ddryganian yr aderyn, daethpwyd i dir, yn unig yn ddiangol, ond yn droedsych, ac heb wlychu cymmaint ag un cyrbibyn.
Ond nid drwg i gyd yw gwaith y bioden chwaith. Y mae hi yn medru deall arwyddion y tymmorau i drwch y blewyn, ac y mae ganddi ddull i fynegu hynny i anwybodusion y ddaiar. Y mae hi yn ddigon o athronyddes i wybod fod "dwy gafod dan gysgod;" canys os adeilada hi ei nyth (a nyth gywrain iawn sy ganddi) ym mrig uchaf y goeden, haf gwlyb, oerllyd, fydd yr haf hwnnw:ond os isel ym mysg y cangenau y gosodir y nyth, haf sych a fydd y cyfryw dymmor. Os bydd y nyth yn isel y mae dyferion y brigau a'r dail yn disgyn arni, ac, fel yr awgrymwyd, " y mae dau ddyferyn dan lwyn;" ond os uchel y bydd, ni chwymp arni ddim ond defnynau naturiol y gwlaw. Dyna ei hathroniaeth hi o barthed gwneuthur ei nyth; ac wrth sylwi ar ei hadeiladaeth y gwyddys pa un ai haf gwlyb ai haf sych sydd i'w ddisgwyl y flwyddyn honno.