Y Frân.—Y mae yr awdurdodau yn amrywio parth teithi y frân; ond bernir fod y credo canlynol yn pwyso ar y gwirionedd chwedlonawl, os cyfarfyddir â chwi gan neb o'r teulu hwn:—Un frân, braw, neu anffawd; dwy frân, ffawd, neu ffyniant; tair brân, cariad; pedair brân, priodas. Un frân ddu ar ei phen ei hun sy, gan hynny, i'w drygdybio; eithr nid ymddengys fod brain pob cymmydogaeth yn feddiannol yn gwbl ar yr un cynneddfau. Mewn rhai mannau arferir yr ymswyn hwn pan weler brân yn croesi'r llwybr:
"Hen frân ddu,
Gras Duw i mi!"
Mewn parthau ereill priodolir yr hyn a ddywedir yma gyda golwg ar y frân i'r bioden; ond nis gwyddys ar ba sail.
Mewn herodraeth, chwaith, nid oes i'r frân fawr o gymmeriad; canys, dwyn cogfran, neu frân arall, mewn arfau, a arwyddocâ siaradwr mawr twyllodrus, drwg wrth ei gymmodogion, ac a chwennychai ymddrychafael yn rhy uchel, ac yn ymryson â phawb:—canys yr edn hwn y sydd dra siaradus, a drwg wrth y llafurwyr a pherchen tai; a hefyd cyd bai petrus ganto gyhwrdd â'r eryr, eto er hynny oll, hi a'i dylud dan ehedeg a chrëu, hyd pan ddigio'r eryr wrthi, gwedi dioddef yn hir, a throi ati a'i lladd ne'u briwo."
Y Peleu a'r Giach. — Bu rhyw gymmaint o anghydweled unwaith rhwng y peleu a'r giach, a dechreuasant ymddifenwi ac ymedliw fel hyn:"
"Giach y garrau,'
Myntai'r peleu:
'Peleu du bach,'
Myntai'r giach. "
Ac ar hyn ymddengys iddynt ymdawelu; canyş nid oes hanes iddynt fyned "o ymdaeru i ymdaro."