Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysten Sioned.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YSGOLHEIGION YSTRAD MEURIG.

CYFRIFID yr hyglod Edward Rhisiart, sefydlydd ac Athraw cyntaf Ysgol Ystrad Meurig, gan ei gymmydogion a'i gydwladwyr, yn hynod o ddysgedig. Bernid ef ganddynt hwy y mwyaf dysgedig yn Ewrop, ac yn sicr, y penaf yn yr holl fyd am addysgu ereill. Credent hefyd am ei fod yn ddysgedig, â chanddo gymmaint o lyfrau, ei fod yn medru cwnshero (consurio), ond nid agos cystal a'i olynydd, sef y Parchedig John Williams (tad yr enwog Archiagon Williams), yr hwn a adnabyddid drwy yr holl wlad wrth yr enw Yr Hen Syr. Yr oedd hwnnw yn gallu gwneyd beth bynnag a ddymunai. Yr oedd y fantais ganddo yn hynny yn fawr ar Edward Rhisiart, o herwydd ei fod yn offeiriad hefyd. Yr oedd pob offeiriad yn medru gwneyd rhyw gymmaint ar hynny; ond po mwyaf dysgedig a fyddai, hyd yn oed offeiriad, mwyaf yn y byd o allu a fyddai ganddo i "godi ac i ddarostwng cythreuliaid."

Rhyw ddeugain mlynedd yn ol, clywais y chwedl a ganlyn gan hen lanc, yr hwn oedd y pryd hwnnw yn tynnu ar ei bedwar ugain, yr hwn a dystiai fod yr hanesyn "mor wir a'r pader." Rhaid i'r darllenydd farnu yn hyn drosto ei hun, fel y gorfu arnaf finnau wneuthur:

Mewn ymddiddan ryw bryd rhwng Edward Rhisiart, Penaeth Ysgol Ystrad Meurig, a gwr dysgedig arall, Penaeth Coleg Rhydychain (o blegid, gallwn feddwl, nad oedd ond un Coleg yn Rhydychain), yng nghylch eu hysgolheigion, nid oedd dim diwedd ar ganmoliaeth y gwr hwnnw i ysgolheigion Rhydychain.