a'r peth a hwynt. Ac wedi traethu o hono ei lên wrthi, diflannodd, a hynny gyda llai o dwrf na bydd arferol gan fwganod ei wneuthur wrth ymadael. Gwnaeth yr eneth yn ol ei gyfarwyddyd, a chafodd lonydd byth o'r dydd hwnnw allan.
Pa ham y mae dwylaw bwganod mor ddychrynllyd o oer? Ai rhy wylaidd ydynt i nesu at dân ac ymdwymo? Ond bid yr achos y peth y byddo, dwylaw oerion ofnadwy sy ganddynt; ac os ydynt felly yn yr haf, fel y tro hwn, rhaid bod yr ewinrew wyllt ar bob cymmal iddynt yn y gauaf; gan fod eu hoerni ar bob amgylchiad y cafwyd prawf arno, yn ddigon i dreiddio trwy fêr esgryn y neb y gorfydd arno eu teimlo.
CWPAN NANT EOS.
YCHYDIG iawn sydd yn ein gwlad, yn enwedig yn y rhan uchaf o Sir Aberteifi, heb weled Cwpan Nant Eos, neu glywed am dano. Cwpan pren lled fychan ydyw, yr hwn a ddeil yn agos i beint; a'i rinweddau meddyginaethol sydd anghredadwy, herwydd wedi i bob peth arall fethu, defnyddio hwn a rydd wellâd anffaeledig. Dealler ei fod wedi cael ei lunio allan o'r pren croes ar yr hwn y croeshoeliwyd ein Hiachawdwr, ac felly mae wedi bod drwy yr oesau o fendith amhrisiadwy i rai oedd yn dioddef oddi wrth y gwaedlif.
Pwy a'i gwnaeth, a pha fodd y daeth i feddiant teulu Nant Eos, sy guddiedig oddi wrthym ni; digon i ni ac i'n holafiaid yw bod ei rinwedd yn parhau er gwellad, fel ag y bu i'n teidiau a'u teidiau hwythau