Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysten Sioned.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a llef alaethus plentyn diamgeledd ydoedd ei lef. Nid oes disgwyl i fwci plentyn gyflawnu rhyw lawer o orchestion; ac yn unol â hyn, nid rhyw lawer rymusderau a wnaeth y bwci plentynaidd hwn; ond eto yr oedd yn fwci o gryn bwys yn ei ddydd, ac yn fynych yn destun siarad yr holl gymmydogaeth.

Un tro yr oedd rhyw un yn dyfod at y ty, heb wybod dim fod Cwm Coednerth yn arfer cadw a chynnal bwci, a gwelodd blentyn, mewn gwisg felen oll, yn gorwedd yn ymyl ei lwybr, ac yn wylo yn irad. Amcanodd y dyn ei godi yn ei freichiau; ond noethodd y bwci ei ddannedd yn ysgyrnyglyd arno, a chiliodd y dyn yn ei wrthol mewn dychryn; ac nid rhyfedd, canys yn y fath amgylchiad,

"Pa enaid ni naid yn ol O sydyn fraw arswydol?"

Ar ryw dro arall gwelodd dyn dieithr ef yn rhywle o gwmpas y tŷ, a phlygodd i'w godi a'i amgeleddu; ond aeth y plentyn melyn wylofus yn llynwyn o waed rhwng ei ddwylaw!

Rhyw fân gastiau plentynaidd o'r natur yma, a'u cyffelyb, a chwareuid gan "Fwci Melyn Bach y Cwm."