RHAGYMADRODD.
DYLAI llên cenedl fechan arall fod yn ddiddorol i bob Cymro Cymreig: efallai nad oes yr un genedl ar y Cyfandir mor ddiddorol ynddi ei hunan â'r Tsechiaid, er mor ychydig a wyddys am danynt ym Mhrydain Fawr.
Perthyn y genedl fechan ddewr hon i deulu mawr y cenhedloedd Slaf, a'i hiaith yn debig iawn i'r Rwsieg neu'r Bwyleg. Rhannwyd y wlad a elwir heddyw yn Tsecho-Slofacia rhwng Almaenwyr Awstria a Magyariaid Hwngaria ganrifoedd maith yn ol, ond ni lwyddodd y gormeswyr i ladd enaid yr hen genedl. Ar yr ochr arall, dysgodd Tsechiaid Bohemia lawer iawn oddiwrth eu cysylltiad agos â hen ddiwylliant yr Almaen; ac at ddychymyg a chyfriniaeth y Slaf ychwanegwyd dyfalbarhad a threfn wyddonol yr Almaenwr. Ni ddylid anghofio, ychwaith, mai Bohemia yw'r wlad Slaf agosaf at ein byd ni, a ffurfia'r genedl Tsechaidd ddolen yn cysylltu'r Dwyrain Slaf, ieuanc, a llawn posibiliadau mawrion, â hen wledydd Gorllewin Ewrob. Nid rhyfedd, ynteu, fod ei llenyddiaeth yn ddiddorol, ac nid rhyfedd ychwaith fod pensaerniaeth cestyll, plasau ac eglwysi Praha (Prague—prifddinas Bohemia) yn swyno llygaid y teithiwr. Gwêl fod dau fyd a dau ddiwylliant yn cwrdd yma, a'r naill yn gyfoethocach am ei gysylltiad â'r llall.
Y mae'r byd cyfan yn ddyledus i'r mudiad cenedlaethol Tsech am ei gampweithiau ymhob cangen o'n diwylliant cyffredinol. Erbyn heddyw y mae llawer o Gymry yn gyfarwydd â rhai o brifweithiau Dvorak, cerddor mwyaf y Dadeni Tsech: a phwy glywodd ei "Stabat Mater" heb barchu ei allu a theimlo swyn ei awen? Ond nid oedd cyfle hyd yn hyn i'r Cymro nad oedd yn medru ond Cymraeg a Saesneg i wybod dim am lenorion mawr y Tsechiaid—ar wahân i Jan Hus, diwygiwr, llenor, a gwleidydd mwyaf y genedl yn ystod yr Oesoedd Canol. Amcan y gyfrol hon yw ceisio gwneuthur rhyw ychydig i lenwi'r gwall hwn, fel y caffo'r llenor Cymreig gyfle i werthfawrogi rhan fechan o waith prif ysgrifenwyr y Dadeni Tsech.
Ganed Svatopluk Čech (llefarer: Tsech) mewn tref fechan yn Neheudir Bohemia yn 1846. Gwladgarwr selog oedd ei dad, yn hoff iawn o weithiau Gogol a rhamantwyr eraill ac, yn anad dim, yn llawn brwdfrydedd dros y mudiad Holl-Slaf. Yn yr ysgol, cafodd Svatopluk addysg Almaenaidd hollol, a chwanegodd hyn yn enfawr at ei frwdfrydedd gwladgarol.