Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystorïau Bohemia.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am flwyddyn i'r Eidal. Bu'n athro ym Mhraha wedi iddo ddychwelyd o wlad y gwinwydd a'r olewydd, a thawel iawn oedd ei yrfa mor bell ag y mae pethau allanol yn mynd. Ond gweithiodd yn galed iawn, ac erbyn 1894 yr oedd wedi cyhoeddi tair cyfrol ar ddeg ar hugain o'i weithiau barddonol, heb sôn am dros ugain o ddramodau, tri chasgliad o ystorïau byrion, a chyfres hir o gyfieithiadau o bob iaith bron. Yr hyn sydd yn rhyfedd yw ei fod wedi llwyddo ymhob cangen o lenyddiaeth, er mai ei farddoniaeth yw'r rhan fwyaf o'i waith. Yn 1893 penodwyd ef i gadair Llên Gymharol ym Mhrifysgol Praha, ac enwodd Ymherawdr Awstria ef yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi. Ymddengys ei lwyddiant personol yn rhyw fath o ymgorfforiad o hynt fuddugol llenyddiaeth ei wlad yn ystod y ganrif ddiweddaf.

Os Slaf pur oedd Čech, dinesydd y byd oedd Vrchlický. Daeth o dan ddylanwad diwylliant y Gorllewin a gwêl y darllenydd ôl llenyddiaeth Ffrainc ar ei ystoriau. Yr oedd yn meddu ar lygad craff a chlust fain, a chyfoethogodd lên ei wlad gan liw a sŵn llenyddiaeth cenhedloedd eraill. Ond nid efelychydd gwan ydoedd: arhosodd hyd y diwedd yn Tsech i'r carn. Llwyddodd i ddod â syniadau eang y byd diwylliedig, a ffrwythau pêr ei synfyfyrdod dwys ei hunan yn nherfynau llên Bohemia, a fu ryw ychydig yn blwyfol ei safbwynt cyn ei ddyfodiad ef. Un peth a red drwy ei waith i gyd: yr ymgais i gadw delfrydau bywyd yn lân, i amddiffyn popeth a wna fywyd yn llawn, i gydymdeimlo yn ddwys â galar a llawenydd, â chodiad ac iselder ysbryd dyn. Erys ei waith mewn diwyg Tsecheg, ond at yr holl fyd gwareiddiedig y mae ei neges. Bu farw yn 1912, ar ol gadael ôl mawr ar lenyddiaeth ei wlad, a chyfrannu yn helaeth at ystôr anfarwol llên y byd.

Ffraethineb ac ysmaldod yw prif nodweddion gwaith Jan Neruda (1834- 1890). Ysgrifennodd yntau delynegion yn ogystal a nofeli ac ystorïau byrion, ond yr un meddwl sy'n rhedeg drwy ei waith i gyd. Daw ei arabedd ambell waith yn chwerw ac yn watwarus, ond er nad oes cymhariaeth posibl rhyngddo ef a Vrchlický neu Čech, gŵyr yn iawn y ffordd i ysgrifennu ystori fer.

IFOR L. EVANS.