Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystorïau Bohemia.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YSTORÏAU BOHEMIA.

Y FFLIWT.
(Gan Y. VRCHLICKÝ.)

FRY ym mynyddoedd yr Apenninau safai mynachlog unig. Ymgodai ar ymyl creigle serth oerlwm a di-goed, a thywynnai'r haul i lawr yn ddidrugaredd ar y muriau llwydion. Yr oedd rhywbeth arbennig yn perthyn i'r fynachlog hon; o'i mewn trigai Duw a Diawl yn gytûn. Ymguddiai Duw yn allor yr eglwys, Satan yng nghell y prior ar ei fwrdd ysgrifennu, a thu ol i'r darlun (Duw a ŵyr i ba ysgol y perthynai) a arddangosai demtiad Antwyn Sant, testun dewis arlunwyr lawer, a driniwyd yn ysmala iawn gan Tenier a Tassaert ac yn ffansïol iawn gan Schon a Bosch, ac a roes trwy Callot i'r byd Hoffmann, bardd campus y cawgiau aur a'r trwythi dieflig, ond sydd heddyw wedi ei anghofio'n anniolchgar.

Ymysg yr angenfilod amryfal a ddawnsiai'n arswydol ogylch y meudwyaid tlawd, sanctaidd, fe geid, mewn congl ar ei gwrcwd, lyffant mawr, gwyrdd, â thrwyn fel pig aderyn, a chŵydd gwyn mawr ar ei wddf. O'r tu ol i'r llyffant hwn cyrcydai Satan weithiau, ac heb ei weled syllai drwy lygaid y llyffant nid efallai ar Antwyn Sant yn ei lieinwisg, ond ar y prior byw a'i dylwyth meudwyol.

Rhaid i mi ddywedyd bod Satan ers amser maith wedi hen flino yn ei gornel ddistaw. Yr oedd y prior yn ŵr crefyddol iawn, a llusgai'r myneich eiriau eu gweddi oriol yn aml yn gysglyd ddigon. Yr oedd eu poeni â meddyliau cnawdol yn beth rhy gyffredin erbyn hyn fel y dechreuodd