"O dad," meddai wrtho, "y mae gennyf gais, cais angherddol, y cyntaf er pan ddeuthum yma. Gwrando arnaf, er mwyn Duw!
Edrychodd y prior yn syn arno, a dywedodd â thôn dawel, ond ceryddgar," Yr wyt yn pechu, fy mab, yn erbyn y drefn a'i holl reolau sanctaidd. Ni oddefir unrhyw gais i ti. Canys y mae mynegi cais yn meddwl dymuno rhywbeth, a gorchfygu'r ewyllys yw'r cam cyntaf at berffeithrwydd offeiriadol. Y mae'r cais yn esgor ar orchymyn, a'r gorchymyn ar allu."
Tawodd Cölestin, gwridodd, a lleithiodd ei lygaid. Ychwanegodd y prior: "Teimlaf gydymdeimlad â'th ieuenctid. Felly dywed dy gais; efallai y gallaf ei roddi iti; ond yn y dyfodol arbed fi, a phaid â gadael dy gell, heb dy alw trwof i gan yr Hwn yr ydym oll yn weision. annheilwng Iddo."
Mynegodd Cölestin ei ddymuniad yn floesg. Dymunai fyned gydag Andreas i'r mynyddoedd.
Ystyriodd y prior; yna, â llais dwys dywedodd, "Boed felly! Nid, efallai, oherwydd dymuno ohonof wneuthur d'ewyllys, ond oherwydd y deuai dy dro dithau i fyned allan heb gais. Dos felly gyda Duw, a dychwel dan Ei fendith." Penliniodd Cölestin gerbron y prior a gwlychodd ei law â dagrau poethion wrth ei hestyn at ei wefusau.
Ond ni ddeallai'r prior y dagrau hyn.
Aethant allan i'w taith. ***
Ni buasai'r brawd Andreas erioed mor sarrug â'r tro hwn. Yr oedd ganddo, efallai, reswm da. Ofnai aflwyddiant y lawenydd dirgel, am nad oedd ganddo ddim i'w gludo, ond gorfoleddai'n rhy fuan.