ac y gwnâi hi'r gweddill, ac felly chwythodd yn eofn i mewn iddi.
A dyna beroriaeth ddigyffelyb!
Ymddangosai holl farddoniaeth yr hwyrddydd hyfryd yn nhonnau'r miwsig cyfriniol hwn. Fel petai gwrid yr hwyr wedi ei wasgar dros y seiniau hyn! Dros y seiniau hyn a ymdoddai'n alarnad brudd a chrynu fel ysbrigau'r gwyddfid a ddringai o ardd y fynachlog rhwng hopys gwylltion hyd y mur, a'i flodau mawr amryliw'n llewyrchu trwy'r dellt i'r gell dywyll! Fel petai ellyll yn eistedd ar ymyl pob blodyn, yn wynnach nag ifori, tryloyw fel niwl! Ac ymddangosai pob un fel petai'n ysgwyd ei ben bach aur wrth fesur, a'r naill yn estyn ei law i'r llall a dawnsio'n nwyfus ar gareglau'r blodau cyfagos fel petai mil o löynnod byw'n eu siglo eu hunain yn y blodau! Daeth y nefoedd yn nês, ac aeth y mynyddoedd yn uwch a dwysach. Suganai'r ffrwd fel mewn breuddwyd wrth ymdroelli rhwng y clogwyni, ac fe'u hadlewyrchai'r creigiau tywyll eu hunain yn y tywod aur, dan wylio'i thaith fel gwarchodwyr mawr, a gwyro'n ddyfnach—disgleiriai'r llwyni meryw yn y gwyrddliw smaragdaidd, digyffelyb. A phob nodyn—fel petai wedi darganfod ei frawd! Y naill yn lliwiau cymylau'r hwyr, y llall yn arianlliw'r tonnau, ac un arall drachefn yng nghysgodion fioled y mynydd pell! Fe'i dyblai pob nodyn ei hun trwy ei atsain a suddai i gilfachau hen furiau'r fynachlog neu ddawnsio ar feddau mynwent y fynachlog yn ei chrwydr heibio i ffenestr liwiog yr eglwys A chanai Cölestin yr offeryn o hyd, o hyd.
Tybiai fod pob poen a gofid a gwae a bwysai arno yn ymadael ag ef trwy'r miwsig, Teimlai fel y gwnâi y bore