Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystorïau Bohemia.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwnnw yr aeth am y tro cyntaf i'r mynydd, ond yn rhyddach, fel yr eryr yr eiddigeddai wrtho yr adeg honno, yn hapusach na'r briallu y gwelsai ei enaid yn eu caregl eiddil. Daliai i'w ganu ac edrych tua'r mynyddoedd, a'r haul yn machlud mewn gogoniant hudol y tu ol iddynt. Ymdoddai'r wlad o'i flaen yn llinellau llydain, lliwiog, disglair; yr oedd y ffrwd fel petai'n ymgodi o'r ceunant a lluchio i'w ffenestr gawod o feini onyx, perlau, a rhuddemau. Yr oedd rhuddliw'r hwyr fel môr; tyfai'r blodau gwyddfid mewn llestri grisial, ymgodai odalisciaid a sylffiaid ohonynt gan siglo'n gwmnïau hudol. Dros bobman seiniai nodau clir, hir, melodaidd a rhyfedd, cwynfannus, cynhyrfus ac ymbilgar, fel perlau cawod Fai yng nghoetlan blodau'r iasmin pan fo'r blodau'n niferus a phersawrus.

A daliai Cölestin i ganu'r offeryn—caeai llif y ffansïau o'i amgylch, fel llif dros un a fo wedi boddi—yr oedd rhywbeth anfarwol o dlws iddo ef yn y telori hwn, fel sŵn symbal a sain clychau. Yn raddol aeth y cwbl yn ddistawach, ddistawach, heb ddim ond y nos yn syllu i'w ffenestr â'i sêr-lygaid gwlithlawn, rhyfedd.

Safai'r brawd Kleofas ar y trothwy fel un a fai wedi caregu. Syrthiodd y ffliwt o law Cölestin a hysbysodd Kleofas â llais gwannaidd orchymyn y prior: "Yr oedd Cölestin i ymddangos ar unwaith yn yr ystafell fwyta a'r ffliwt gydag ef."

Cafwyd prawf ffurfiol. Wedi ymgolli yn ei ganu, anghofiasai Cölestin y weddi hwyrol yn llwyr, a pheth oedd waeth, fel y dywedai'r prior, torasai ar fyfyr y lleill â'r miwsig Satanaidd hwn. Disgwyliai'r brodyr, oedd erbyn hyn wedi chwerwi yn erbyn Cölestin, mewn llawenydd maleisus