Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystorïau Bohemia.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am ddedfryd y prior. Tybiai ef ar y cychwyn fod Cölestin yn gallu canu'r ffliwt, ond addefodd hwnnw'n onest na wyddai ddim am ffliwt cyn hynny, a'i fod yn credu nad oedd angen dim ond chwythu i mewn iddi. Chwerthin cyffrous y brodyr oedd yr ateb iddo. Ystyriai'r mwyafrif ef yn rhagrithiwr; credai eraill yn ei symlrwydd, ond ofnent fod rhywbeth goruwch-naturiol yn y canu. Ystyriodd y prior yn hir. Yr oedd wynepryd gonest Cölestin yn ei amddiffyn yn llwyr. Y diwedd fu i'r prior gyhoeddi'r ffliwt yn eiddo'r fynachlog a'i rhoddi i'r brawd Kleofas i'w chadw, gan orchymyn iddo beidio â gadael i neb ei chael, neu o leiaf i Gölestin, oedd erbyn hyn wedi ei anfon allan.

Treuliodd Cölestin noson ddigwsg. Swniai'r miwsig hudol yn ddibaid yn ei glust. Yr oedd yn ddiwrnod tywyll a niwlog drannoeth. Yr oedd tymer Cölestin fel eiddo dyn a fo wedi treulio'r nos mewn cyfeddach. Teimlai ryw wacter dychrynllyd yn ei enaid. Ymddangosai fel dieithrddyn yn yr eglwys ac yn ei gell. Llosgai rhyw hiraeth annirnad ynddo; ofnai siarad, ac eto gwyddai mai poeni am y ffliwt yr oedd.

Daeth yr hwyr eilwaith, yn drist ac annifyr. Ymwisgai'r mynyddoedd yn eu clog o niwl, fel gweddwon galarus. Cerddai Cölestin yn ol ac ymlaen yn ei gell a'i freichiau ymhleth. Gwingai rhyw feddwl ynddo, ac fe'i poenydiai â thân uffernol.

Y ffliwt! Dim ond y ffliwt!

Yna clywodd guro ysgafn ar y drws.

Agorodd, ac yn yr adwy hanner-tywyll safai un o'r brodyr. Yr oedd yn rhy dywyll iddo allu adnabod ei brydwedd, ond yr oedd ei ffurf yn debyg i eiddo Kleofas.