Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystorïau Bohemia.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"A oes eisiau imi ddyfod at y prior eto?" gofynnai Cölestin yn syn.

Yn lle ateb, dododd y mynach ei fys ar ei wefus a thynnodd allan odditan ei abid—y ffliwt. Beth arall a allasai fod a phwy arall ond Kleofas, ceidwad y ffliwt, traflyncwr mawr cig mwg?

"Kleofas! Frawd!" llefai Cölestin yn llawen. "Y mae un felly sy'n cydymdeimlo â mi—un sydd heb f'anghofio—sy'n barod i ddwyn arno'i hun lid y prior a'r brodyr er fy mwyn i! Diolch iti, frawd—tybiwn bob amser dy fod yn elyn i mi; maddeu, frawd, maddeu! O lawenydd, fy ffliwt!"

Estynnodd ei law am yr offeryn dihafal.

Amneidiodd y mynach arno i fod yn ddistaw, ac estynnodd y ffliwt iddo. Cyn i Gölestin allu diolch iddo, diflanasai yn nhywyllwch y neuadd.

Yn ei gyffro, angofiasai'r gŵr da Cölestin fod y brodyr wedi ymgynnull yn y côr ers cryn amser. Daliai i gredu na allai'r mynach mud hwnnw fod yn neb amgen na Kleofas. Nid oedd lle i ddim yn ei ymennydd ond i'w ffliwt.

Symudodd at y ffenestr a chanodd.

Yr oedd y gerdd yn drist a galarnadol, fel petai'n cynganeddu ag ysbryd yr hwyr. Dylifai ocheneidiau gwasgedig a dagrau ataliedig drwyddi yn ffrwd lawn; cwynai miliynau o eosau eu gofid ynddi. Yn sydyn newidiodd y miwsig yn rhuthr gwyllt y carnifal, yn llawenydd cyfeddach ofer, yn chwerthin gwallgofrwydd. Ni wn am ba hyd y canodd Cölestin, ond y tro hwn Kleofas oedd a ddaeth yn gynddeiriog fel teigr i'w lusgo gerbron brawdle'r