"Ie, dy enaid," chwarddai Satan yn wawdlyd; "paid â chodi, nid oes raid i ti ymboeni."
Ufuddhaodd Cölestin, a thynnodd y cwrlid drosto. Dododd Satan y ffliwt wrth ei wefusau. Nid oedd y nodyn cyntaf ond prin wedi seinio pan syrthiodd ei amwisg ddu oddiarno. Ar ymyl y fainc eisteddai cawr noeth, a'i freichiau aruthr yn cuddio dwy adain ystlum a hongiai o'i ysgwyddau anferth fel dwy faner ddu. Canodd gan nodio'i ben purddu. Yr oedd sŵn od, amhersain ac anghelfydd yn y gân; nid oedd peroriaeth yn y miwsig hwn, a theimlai Cölestin fel petai cawod danllyd o farwor llosg yn disgyn ar ei arleisiau. Swniai'r nodau'n arwach yn awr, ac yn dreiddgar fel nodwyddau dur. Daeth arswyd rhyfedd Yna dros Gölestin, a thynnodd y cwrlid dros ei ben. ymledodd rhywbeth fel niwl drosto gan bwyso ar ei fynwes. Ymgododd lluniau amryfal, digyffelyb. Gwelai ddinasoedd a thyrau a thai hynod, fforestydd mawrion a diffeithleoedd tywodlyd, hen erddi'n llawn o gerrig, cerfluniau mwsoglyd a ffynhonnau hysbion. Daeth yn hwyrddydd, daeth yn fore, daeth yn nos—ni pheidiodd y glaw. Yn sydyn fe'i cafodd ei hun mewn gardd gypreswydd wyllt. Yn y tu cefn ymgollai tyrau adeiladau'r Canol Oesoedd. Disgleiriai tywod aur ar y llwybrau llydain ac anadlai'r blodau serennog foethusrwydd i'r awyr. Ger y ffynnon dan y cypreswydd safai gwraig o osgedd teyrnaidd ac aruthr.
Yr oedd gwisg o felfed du amdani. Disgleiriai ei gwddf a'i mynwes hanner-cudd gan wynder pur a cheinder perlog. Estynnodd yntau ei fraich yn awchus, ond ymdoddodd y wraig yn ddim fel niwlen. O'i amgylch ymdaenodd niwl drachefn, ac yr oedd popeth fel petai'n tyfu ac yn ymdoddi'n gylchau