Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Ysgrechiodd Andreas yn uchel gan syndod. Neidiodd yn hoyw ar gefn ei gymrawd a gyrrodd ef yn brysur i fyny'r mynydd. Nid anturiodd droi'n ol, ond ymgroesai'n aml.
Dywedodd wrth y prior iddo dreulio'r nos gydag un o'r ffermwyr. Ni wn a adroddodd ef wrth unrhyw enaid dynol hanes antur y nos honno.