YR HEN WRAIG.
(Gan Y. VRCHLICKÝ.)
DENAI haul y gwanwyn bobl lawer o'r dref. Teyrnasai prysurdeb bywiog yn yr heolydd, yr oedd popeth mewn cywair uchel. Tyrrai pawb ar frys gwyllt o flaen porth y dref. Nid oedd eto yn Natur ddim llawer o ol y gwanwyn hir-ddisgwyliedig i'w weled. Yr oedd gwellt crynedig ar y llwybrau bron yn ddi-liw, y coed yn foel, nid oedd ond y castanwydd yn agor eu blagur aur. Eto yr oedd y gwanwyn i gyd yn yr awyr. Gellid dywedyd ei fod yn hofran dros y byd. Yr oedd yr awyr yn glir a phersawrus, yr wybren yn llawn o adar ehedydd a ganai o lawenydd calon.
Ar y droetffordd a arweiniai i'r meysydd agored lle y cyrchai'r rhan fwyaf o'r dyrfa Saboth drwsiadus, cyrcydai hen wraig. Yr oedd dillad yr hen greadures yn garpiau i gyd. Eisteddai gan blygu ymlaen, a'i dwylo ymhleth am ei gliniau. Dwylo hen, rhychiog, llosg gan yr haul, caled ac esgyrniog oeddynt, fel cangau crin coeden ar lawr. Crwydrai ambell gudyn o'i gwallt brith ar ei harffedog glytiog. Ymddangosai cynhesrwydd pelydr yr haul yn garedig wrth y dwylo hen lluddedig a welsai lawer o dywydd garw.
Chwaraeai plentyn ger traed yr hen wraig. Cloddiai'r ddaear â darn o lestr pridd, crafai'r clai ynghyd a'i rannu wedyn yn ddarnau bychain unfaint. Wedi ymgolli yn ei chwarae, ni sylwai ar yr hen wraig, ac ni sylwai hithau yn ei hir-fyfyr trist a chyfrin ar y plentyn ychwaith. Cerddai'r bobl heibio'n lluoedd; yr oedd fel petai'r holl dref wedi