dyfod allan i fwynhau heulwen y gwanwyn. Ac âi'r holl dref heibio i'r hen wraig, a hithau'n cyrcydu'n ddigyffro ar y ddaear a'i phen yn llwyr o'r golwg yn ei harffedog glytiog, a'i dwylo'n dyn ymhleth am ei gliniau, a'r pelydr cynnes fel petaent yn eu dal.
Pwy oedd yr hen wraig, tybed? a pham yr eisteddai yno fel petai wedi caregu?
Nid cardotes oedd hi. Efallai mai gofalu am y plentyn oedd ei gwaith? Efallai mai dyna'i dull hi o fwynhau bendith heulwen y gwanwyn? Neu a oedd ei gofid mor fawr fel na allai oddef unwaith eurbelydr caredig yr haul, nac estyn ond ei dwylo caled, geirwon i'w derbyn ? Efallai ei bod yn ei theimlo ei hun yn hapus yn y marweidd-dra hwn-ond, a dywedyd y gwir, cysgai yn esmwyth ac yn fy nychymyg i fy hun y chwareid y ddrama erchyll a osodais mewn ffansi o flaen eich llygaid.
Ni wn paham, ond bu darlun yr hen wraig ryfedd yn boen i mi. Tybiwn fy mod yn gweled yr holl ddynoliaeth wedi ei merthyru a'i phoenydio a'i baeddu a'i gorthrymu, yn cywilyddio oherwydd effaith ei gwaith ac eto'n dal i estyn ei dwylo crebachlyd i belydr yr haul-
A chanai'r adar ehedydd a gwasgarai pelydr yr heulwen eu tês.