Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystorïau Bohemia.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Gwn am foddion gwell ac fe'i darganfûm ar fy nheithiau," atebai'r pererin. "Ffynnon ydyw hon hefyd, ond nid y ffynnon ieuenctid ryfedd honno y breuddwydiaist ti amdani; gwin chwerw, ond iachus, ydyw, sy'n gallu gwellhau'r hwn a gollodd unig wir ieuenctid yr enaid trwy bechu."

Cododd yr abad ei olwg at y pererin. Yn ei lygaid llydan-agored fflamiai tân dyhead gwyllt.

"A gefaist ti'r rhyfeddod? Pa le a pha bryd?"

"Ni waeth am hynny," atebai'r pererin gan osgoi'r cwestiwn. "Digon yw gwybod ei fod gennyf, ac y cei dithau, os dewisi ac onid oes arnat ofn, lymaid ohono." "Nid oes arnaf ofn dim; fe'i cymeraf ef," ebr yr abad. Datglymodd y pererin yr ysgrepan, a thynnodd allan lestr pren bychan a'i lenwi â gwlybwr du o'r gostrel a grogai wrth ei wregys.

Goleuodd llewych olaf haul yr hwyr wyneb gwelw y crwydryn, a cheisiodd yn ofer gynneu yn y gwlybwr du adlun gwan o liw ambr hen.

Estynnodd y llestr cyforiog i'r abad.

"Beth yw hwnyna?" gofynnai yntau, gan godi'r llestr at ei wefusau.

"Ffynnon angof," atebai'r pererin.

Diflannodd gwrid yr hwyr; dechreuodd cysgodion llwydion ymledu dros y ddaear. Yfodd yr abad y cwpan i'r gwaelod.

Edrychodd ennyd i'r cysgodion llwyd. Diflannodd y pererin yn eu mantell, yna'r holl amgylchoedd o'i gwmpas; ymledent dros ei lygaid a'i ddwyfron; teimlai law oeraidd