BARDDONIAETH A RHYDDIAITH.
(Gan Y. VRCHLICKÝ.)
TRIGENT ill dau mewn tŷ oedd mewn strŷd o'r neilltu yn y dref fawr.
Yn yr ystefyll ar y llawr y trigai'r pobydd, gŵr o natur gref, llydan ei ysgwyddau, a chyhyrau fel haearn, wedi eu caledu a'u datblygu wrth weithio. Hen greadur hen-ffasiwn, fel y dywedir, oedd, ac un, a barnu oddiwrth ei wynepryd llydan a hynaws, oedd yn fodlon ar ei grefft, heb deimlo unrhyw awydd newid cylch ei orchwyl.
Ym mhen-draw'r ystafell bobi, oedd bob amser yn llawn o aroglau blawd llaith a bara wedi eu crasu, yr oedd siop fechan, a ffenestri mawr, rhwyllog, a drws bychan ar yr ochr, lle y crogai cloch fechan oedd yn tincian ddibaid drwy gydol y dydd.
Uwchben y pobydd trigai perarogleuydd. Nid crefftwr cyffredin oedd ef—yr oedd ef yn ddyn a deimlai fod ynddo ysbryd dyfeisgar, ac a geisiai bob amser greu peraroglau newydd a digymar. Iddo ef yr oedd aroglau fioled a rhos, minionet a charnasiwn, mwsog a mwsg, yn rhywbeth cyffredin. Nid oedd y ffaith mai'r peraroglau hyn oedd y rhai dewisaf yn mennu dim arno ef. Arhosai ar ei draed drwy'r nos yn ei ystafell fechan, gul—distyllai, cyfunai, cymysgai, toddai, rhidyllai, a chrasai. Gadai ryddid hollol i'w ffansi, hyd yn oed dros derfynau chwaeth dda, yn unig i ddarganfod byd newydd o beraroglau newydd na wyddid o'r blaen ddim amdanynt. Meddai ar ryw