Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystorïau Bohemia.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr anifail cythreulig a ddisgrifir gan Goethe, yng nghylch diffaith eu hamgylchiadau marwaidd, y mae ei ben yn suo gan ffigyrau, nwyddau, cyfnewidiau, treuliau, tai, a phethau cyffelyb.

Yna agorir y drws eto a chyda chyfarch bonheddig, "Bendith Dduw! Dydd da!" daw dyn ysgwâr, lysti i mewn, gan droi a gwasgu a chrychu cap blewog yn ei ddwylo o wir yswildod. Yn ddiarwybod gloywa wynepryd gŵr y gyfraith. "Croeso, gyfaill. Eisteddwch, eisteddwch. A gawsoch chwithau hefyd law acw? Wel, beth sy'n eich dwyn yma?" Ac edrydd y cyfaill ei neges yn ei ddull syml a naturiol ei hun, gan blethu ymadroddion diarhebol, cryno i'w araith ac ysgwyd ei ddwylo'n anes- mwyth. Gwena'r cyfreithiwr. Difyr ganddo'r cyngaws ynglŷn â rhywbeth a ddigwyddodd yn ysgwâr glaswelltog y pentref y mae oddiamgylch iddo dai to gwellt mwsoglyd neu gaeau yd eurdonnog, gwlad lydan rydd nad yw ef hwyrach yn ei annedd gysurus yn y dref yn hiraethu amdani, ond sydd eto weithiau'n hyfryd meddwl amdani, pan gaffo gyfle i wthio o'r neilltu'r memrynau llychlyd a llyfrau'r gyfraith, a chael ei wynt ato. Hoff ganddo ymddiried unplyg y cwsmer gwledig yn ei hollalluowgrwydd cyfreithiol ef ac yn ei gyfrwystra dieflig.

Yn wir y mae hefyd ryw swyn gwerthfawr yn yr ewyllysgarwch distaw sy'n nodweddu gwladwr fel hwn cyn trafod pwnc, pan estynno arian-nodau allan o lyfryn drylliedig neu gongl cadach poced, ac yn ei barodrwydd hefyd i dalu'r biliau mwyaf.

Ochr yn ochr â'r agwedd ysgafn i'r busnes gyda phartïon fel hyn, fe geir hefyd agwedd brudd. Fel arfer bydd