dyn, ond yn unig er mwyn i'w canu a'u clocian a'u clegar mhoeni i i farwolaeth o fore gwyn tan nos, ac er mwyn iddynt ehedeg dros y gwrych i'm gardd i'w handwyo, Duw a'm helpo!
"Nid oedd fy ngallu o'r blaen yn ddigon i'w llwyr yrru i ffwrdd, ac yn awr er pan gollwyd dau bren o'r gwrych, y mae'r bwystfilod hyn yn dyfod i'm gardd fel petaent gartref yno. Ond yr wyf am roddi pen ar hyn. Yr wyf am brynu gwn dau faril ac am saethu unrhyw beth a ddêl trwy'r gwrych, ni waeth gennyf petai hwnnw'r ceiliog paun tlysaf sydd ganddi."
"Ni byddai peth felly o fawr fudd i chwi. Y mae gennyf gyngor gwell i chwi. Deliwch rai o'i dofednod a chedwch hwy fel iawn. Rhyw fath ar hawl gwystl yw hyn, ac yn yr achos hwn y mae'r gyfraith yn ei ganiatau i chwi.'
Rai dyddiau ar ol cael y cyngor hwn, daeth Prochazka i'r swyddfa wedyn yn gynhyrfus yr olwg.
"Wel, a ydych wedi atafaelu'r dofednod?" gofynnai'r Doctor.
"Ydwyf."
"Beth a ddigwyddodd?"
"Wele!" Cribodd Prochazka ei wallt melyn sych oddiar ei dalcen, ac odditano gwelid ar y croen graith waedlyd ac amryw lympiau del dros ben.
"O felly, ffrwgwd aie?"
"A'r fath ffrwgwd! Daeth i ymofyn ei dofednod gyda'r gwas a'r forwyn, ac fe'm galwodd yn lleidr ac yn gnaf diddim. Trwy rym dug ei hieir oddiarnaf, a phan redais i'r ardd ar ei hol, gafaelodd yn un o'r polion toredig