"Wel, beth sy'n bod, ynteu? Darllenwch y ddedfryd ardderchog hon. Rhaid i Vrchab droi'n bob lliw wrth ei darllen. Edrychwch ar y symiau anferth y mae'n rhaid iddi eu talu i chwi.'
"Y mae'n rhy hwyr yn awr," meddai Prochazka'n floesg. Rhy hwyr? Paham yn rhy hwyr?" gofynnai'r cyfreithiwr yn syn.
Yr ydym eisoes yn gymheiriaid."
"Chwi-a Vrchab?"
"Ddoe am y tro cyntaf cyhoeddwyd gostegion ein priodas."
"A ydyw'r fath beth bosibl ? Chwi—chwi a Vrchab—ond dywedwch wrthyf, er mwyn y nefoedd, sut y digwyddodd hyn ?
"Digwydd, ydyw, y mae eisoes wedi digwydd. Y mae'r hanes rhyfedd hwn yn dechreu gyda'r llys sirol ac achos y sarhad ar urddas. Pan alwyd ni i'r swyddfa, eisteddai'r barnwr wrth ei fwrdd a'i gefn atom, wrthi'n ysgrifennu. Efallai yr adwaenoch ef, Doctor?"
"Yr wyf wedi ei weld droeon. Un o'r hen farnwyr hynny a roes y gwasanaeth goreu iddynt eu hunain ac i'w cwsmeriaid, pan fynnent eu cael eu hunain ar restr y rhai sydd wedi ymneilltuo ar ol gwasanaethu'n dda."
Eithaf gwir. Y mae hwn yn hen ŵr bonheddig. Y mae ei ben eisoes yn wyn fel yr eira. Ond y mae ei wyneb hyd yn hyn yn llawn iechyd. Wel, fe eisteddai felly wrth y bwrdd ac ysgrifennu. Wrth y bwrdd arall eisteddai'r clerc a'i bin ysgrifennu'n ei law, gan drefnu papurau oedd o'i flaen. Disgwyliasom yn ddistaw am ychydig. Yna ymollyngodd