Vrchab i siarad. Agorodd holl lifddorau ei hyodledd. Ond diolch i Dduw, gallaf innau hefyd siarad. Ni chlywodd yn ystod ei holl fywyd gymaint o wirioneddau caled ag a fynegais i iddi mewn byr amser. Dywedais wrthi yr hyn oll oedd yn fy nghalon. Dodais ger ei bron restr hir o bechodau a thelais bob sarhâd yn ol yn ddau-ddyblyg. Fe gynddeiriogodd hithau, llefodd a churodd y llawr â'i thraed gan gynddaredd—mewn gair, gwnaethom y fath helynt fel yr agorodd y cyfreithwyr oedd yn yr ystafelloedd nesaf y drysau, ac edrychodd y clerc yn gyffrous ar y barnwr. Ond ni wnaeth hwnnw ond nodio â'i ben, gwenu ac ysgrifennu'n ei flaen. Cyn gynted ag y cefais fy nghalon i guro'n rheolaidd ac yr aeth Vrchab yn gryg gan lefain cymaint, gosododd y barnwr ei bin y tu ol i'w glust, cymerodd binsiad o snwff, a throi atom. 'Wel, a ydych wedi dywedyd y cwbl?' gofynnodd. Rwy'n credu mai'r peth goreu i chwi'n awr ydyw ysgwyd llaw a mynd adref yn weddaidd. Byddai'r peth goreu hefyd pe trigech bob amser mewn cariad cymdogol ac yn gytûn, a pheidio â'n poeni ninnau â'r fath bethau. Wrth gecru'n ddibaid, ni wasanaethwch mewn unrhyw fodd arbennig eich anrhydedd na'ch dylanwad.'
"Rhai felly yw'r holl henwyr hyn," meddai'r cyfreithiwr yn chwerw. "Y maent yn orhoff o gymysgu cadair y barnwr a'r pulpud. Wel, sut y digwyddodd hi wedyn ? A ddilynasoch chwi fy nghyfarwyddyd?'
"Beth oedd i mi i'w wneuthur?" atebodd Prochazka, a'i lais yn torri. "Fe ddug y barnwr y peth at ein cydwybod mor ddeheuig ac mor ddoniol fel y siglasom ddwylo o'n hanfodd megis, dan hanner-gwenu a theimlo bod popeth yn iawn yn y diwedd."