Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystorïau Bohemia.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Felly! Dyna chwi wedi cychwyn rhywbeth ardderchog!" llefai'r cyfreithiwr, gan gerdded yn ol ac ymlaen yn fywiog hyd yr ystafell.

"Ystyriwch yn awr fy nghyngor i, i ba beth y bu'r ymgyfreithio? I ba beth y bu'r achwynion? i ba beth y bu'r treuliau? Ond, yn wir, yr wyf wedi anghofio eich bod yn perthyn y naill i'r llall. Efallai i'r barnwr eich uno chwi hefyd yn y fan a'r lle?"

Do, bron iawn. Wrth i ni ysgwyd llaw, ychwanegodd y barnwr dan wenu y dylem ysgwyd llaw mewn unrhyw le arall hefyd, ac ar hynny ar un ergyd chwalwyd ein holl wrychoedd cynnen a'n llinellau terfyn oddiar wyneb y ddaear. Heblaw hynny, yr oeddym fel petaem wedi ein creu y naill ar gyfer y llall. Yna aethom adref, bob un hyd ffordd wahanol. Ond y Sul dilynol yr oeddwn ym Mokrin yn gwrando'r offeren, a phregethodd y caplan yno mor dda ar gydfod cymdogol a chariad brawdol, a thywynnai'r haul i mewn mor hyfryd trwy'r ffenestri uchel ar y pulpud goreuraid, ar y darluniau a'r rhos oedd wrth yr allor, ar blant yr ysgol wrth y delltwaith a'r holl gynulleidfa, fel y suddodd y peth yn ddwfn i'm calon. Ac fel yr ymlwybrwn adref ar hyd ffordd y cae, fel y dymunwn fendith Dduw ar y caeau yd eurdonnog o'm hamgylch, fel y syllwn ar y pryfed a'r chwilod oedd yn sïo'n hapus yn yr awyr ac yn y glaswellt, daeth i'm meddwl heb im wybod gyngor da'r hen farnwr. A pho bellaf y cerddwn, dwysaf yn y byd yr âi'r teimlad ynof mai'r peth goreu y gallwn ei wneuthur i ysgubo'r gynnen ddiddiwedd oddiar wyneb y ddaear a chael y tawelwch bendigedig yr hiraethwn gymaint am dano, oedd priodi Vrchab. Darganfûm nad oedd y gymdoges mor anolygus,