Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystoriau Siluria.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Awd at y gorchwyl; dewrder bechgyn y Rhondda ac Angau yn rhedeg gyrfa, pa un o'r ddau gyrhaeddai dalcen Thomas Morgan gyntaf; a'r holl wlad, o'r frenhines Victoria i lawr i'r cardotyn, yn dàl eu hanadl rhwng ofn a gobaith.

Ni fu y fath dorri glo cynt na chwedyn. Nid oedd amser i siarad na dim arall, ond ergyd, ergyd, ergyd, drwy y pedair awr ar hugain. Newidid y gweithwyr bob teirawr, ac nid oedd y mendryl yn cael amser i oeri rhwng llaw a llaw. Pan fyddai lludded yn galw am arafu ychydig, yr oedd y curiadau hwnt i'r pared yn cymell yr egni mwyaf a allai y corff dynol ei ddàl.

Gwilym Thomas! Abraham Dodd! Isaac Pride! a'r holl weithwyr eraill Beth sydd yn gwneuthur i chwi ergydio mor drwm pan y mae Angau, o ran a wyddoch chwi, yn eich hudo ymlaen i brofi marwolaeth ym munudau olaf yr ymgyrch fel ag a wnaeth â William Morgan, wythnos yn ol?

Dim ond un ateb-" tinc, tinc, tinc, tinc, tinc," gwan, yn danfon eu neges o fyd y cysgodion.

O'r diwedd neshawyd i ben y deugain lath, a chymerwyd gofal i osgoi perigl mawr y compressed air, trwy osod "drysau" yn groes i'r heol y tu ol i'r gwaredwyr.